Ar 17 Medi 2023 bydd y rhan fwyaf o derfynau cyflymder 30mya yn newid i 20mya yng Nghymru fel y terfyn cyflymder cenedlaethol newydd. Dyma dorri tir newydd yn y DU. Mae 20’s Plenty for Us yn helpu unrhyw un sydd am groesawu’r newid hwn, fel y gall pawb ohonom helpu i wneud strydoedd Cymru yn deg unwaith eto. Gall ein tudalennau gwe helpu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi a’ch ysbrydoli.
Mae 20mya yn disodli 30mya, oni bai bod ffordd yn cael ei heithrio’n fwriadol a bod ganddi arwyddion 30mya. Mae canllawiau eithriadau yn dweud y dylid cynnwys strydoedd lle mae angen, neu lle gallai fod angen, i ddefnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed gymysgu â thraffig modurol, hyd yn oed cefnffyrdd A. Gall aneddiadau deimlo fod parthau clustogi yn ddefnyddiol – e.e. lle mae cyflymder yn gostwng o 60mya i 40mya neu 30mya.
Canfu ymchwil newydd bod cyflymder gyrru is yn cynyddu lefelau cerdded a beicio gyda fawr ddim effaith ar amseroedd teithio yn y mannau a dreialodd 20mya yng Nghymru.
Mae gwaith graffeg am ddim yn ymwneud â 20mya gan 20’s Plenty for Us a gan Lywodraeth Cymru i’w weld yma. Hashnod #barodam20mya.
Beth allwch chi ei wneud? Gall Cynghorau Cymuned wneud cais am adnoddau – megis pecyn o sticeri am ddim yn Gymraeg a Saesneg neu gyflwyniad ar-lein am ddim gan [email protected]. Mae dros 60 wedi gwneud hynny eisoes. A yw eich un chi? Gallwch weld yr amrywiaeth o ddyluniadau ar gyfer biniau olwyn a bympars ceir a phrynu’r sticeri yma. Pam arddangos sticeri? Er mwyn codi ymwybyddiaeth, cydymffurfiad gyrwyr â chyflymder is ac oherwydd y gellir ei wneud cyn i’r newid ddod i rym er mwyn helpu pawb i wybod ei fod yn dod a bod yn #barodam20mya. Gellir defnyddio graffeg mewn cylchlythyrau lleol yn egluro bod 20mya ar ei ffordd. |
Sesiynau Zoom ‘Diolch am 20/Thanks for 20’
Gall unrhyw un fynychu ein sesiynau zoom rheolaidd a gynhelir ar 17 o bob mis am 7pm. Mae sesiwn zoom Ebrill yn cynnwys Jason Williams, arweinydd yr heddlu ar 20mya a Kaarina Ruta, Cynorthwyydd Trafnidiaeth sy’n gweithio ar 20mya gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cofrestrwch yma.
Dewch i ofyn cwestiynau, rhannu syniadau, profiadau a dysgu gan eich gilydd. Roedd ein digwyddiad bywiog ym mis Mawrth yn cynnwys Fiona Andrews o 20 yn Ddigon Llandudoch. Canfu fod “cymaint mwy y gallai cymuned elwa gan y gostyngiad cyflymder cyfeillgar pe bai pobl leol yn ymuno’n gynnar”. Mae gweithgareddau newydd sy’n digwydd, megis cynllun cyfaill beic, soffa i 5k a cherdded i’r ysgol, wedi rhoi mwy o annibyniaeth a chynyddu cyfeillgarwch ymhlith plant.
Mae croeso arbennig i Gynghorwyr Tref a Chymuned. Mae ganddynt sianeli cyfathrebu gwych ac o bosib cyllidebau cymunedol ar gyfer eitemau fel nodweddion porth, baneri a sticeri.
Ymunwch â’n Grŵp Facebook Diolch am 20/Thanks for 20 - www.facebook.com/groups/diolcham20/
Edrychwch ar y map o eithriadau ar gyfer eich ardal a rhowch wybod i’ch awdurdodau os oes gennych farn. Gallwch chwyddo i mewn i’r mapiau yn MapDataCymru.
|
|
|
|
Newidiodd Sbaen i 30 cilomedr yr awr (18mya) yn genedlaethol a gweld lleihad gan 20% mewn marwolaethau ar y ffyrdd |
Dywedwch wrthym beth eich syniadau. Beth fyddai’n eich cefnogi chi i hyrwyddo’r newid i 20mya?
Rydym yn argymell eich bod yn aros yn gadarnhaol ac yn peidio â chael eich tynnu i mewn i ddadl â’r rheini sy’n dilorni’r newid hwn gan ei fod yn dod. Yn hytrach, gweithiwch gyda’r cefnogwyr i argyhoeddi’r rheini sy’n ansicr i gefnogi 20mya.
Gwahoddwch unrhyw un y credwch fydd yn weithgar i fod yn gefnogwr cymunedol ac anfon ein gwybodaeth atynt fel y gallant gymryd rhan.
Diolch am bopeth rydych yn ei wneud.
Rod King, Anna Semlyen a Sue Nicholls
Tîm cefnogi dathliad Cymru 20’s Plenty for Us
Agor PDF
Showing 1 reaction
Sign in with
Facebook Twitter