What advice do you have for local authority councillors in Wales considering reviewing their 20mph exceptions?

Local authorities have the responsibility to set exceptions to national speed limits where a different limit is more appropriate. What advice has 20's Plenty given to local authorities in carrying out this responsibility?

20's Plenty regularly publish FAQs, other statements, briefings and press releases. After the government publication of a full 12 months casualty data after implementing the default 20mph, 20's Plenty sent the following email to all local authority councillors in Wales. See below for Cymraeg version.

7th February 2025

Dear councillor

“Astounding reduction in casualties on Welsh Roads following the 20mph default is at risk of being reversed if speed limits are increased by 50%”

  • Casualties are down by 28% on 20/30mph roads in Wales
  • Insurance companies report a lowering of premiums in Wales
  • Wales is being seen globally as a leader in road safety
  • Many local councils are taking a sensible, cautious approach to reviewing speed limits
  • Some may be at legal and political risk of a wholesale increase in speed limits

First may I thank all the local authorities for the work they did in implementing the default 20mph limit for Wales. With the casualty figures for July to September 2024 now available we have been able to compare the casualties on urban/village roads in Wales going back nearly 20 years. The year-on-year changes for any 12 months ending in September were as follows :-

Welsh road casualties changes by year

We have shown the variation in casualties from one year to the next on the left for both those roads with 20mph/30mph limits and those with 40mph. What is noticeable is that (apart from the Covid lockdown year) the 28% reduction for 20/30mph roads in the 12 months after 20mph was implemented is more than double the previous largest annual reduction. And removing  2019/20 it is 6 times greater than the average year-on-year reduction from 2005 to 2022.

With 678 fewer casualties on 20mph and 30mph roads in these 12 months then that is 678 fewer people either killed or injured on Welsh roads. Wales is being seen as a beacon in road safety globally. This reduction on risk in Welsh communities has also led to insurance premium reductions as companies report a 20% reduction in damage claims and a consequential £50 reduction in premium for the average driver. For this I must congratulate Welsh drivers who through their change in driving are making such a difference.

At the same time, I am aware that some nuancing of the exceptions to the default 20mph was always expected. We know that many, indeed most, Local Authorities are reviewing their speed limits on each stretch of road in a diligent fashion to see whether an increase of 50% is both safe and justifiable.  They are at less risk of liability for subsequent casualties than if they had simply responded to demands from a minority of drivers to increase speed limits wholesale.

Only 10,500 (or  0.45% of Welsh driving license holders)  responded in naming roads they wanted setting to 30mph. I am sure that you will be aware that the new guidance on setting exceptions to 20mph does NOT mean that these should be excepted or even automatically considered for exception. There is very clear guidance in both the principle of setting exceptions only where higher speeds are evidentially safe in the presence of pedestrians and cyclists, and a number of place criteria which must be met before consideration. These guidelines ensure that as the Transport Minister, Ken Skates MS, recently commented “...we have empowered local authorities to make changes where it is safe to do so.”

My concern is that some authorities may be considering setting 30mph limits in places which do not meet either the principles or specifics of the guidance and have mis-read the signs from Welsh Government which imply support. It is local authorities who take responsibility, and will be held responsible, for exceptions and not central government. And in doing so they do need to take the guidance fully into account as well as other legal responsibilities beyond traffic management. We have therefore put a guide together which is useful for both councillors in  understanding the validity of any intended traffic orders, and the public in registering  their concerns during the TRO consultation process. This is available as one of our FAQs on our website at www.20splenty.org/w_faq11. This provides background, detail and examples of some of the objections we have made to early 30mph draft TROs in Flintshire and Wrexham.

The fact that Wales now has national default 20mph, with exceptions only where made by local authorities, does mean that all 30mph roads (except on trunk roads) will have been determined by local authority and not central government. Where future crashes and casualties occur on 30mph roads then insurance companies representing drivers in certain casualty situations may well wish to pursue liability with a local authority that had set a 30mph limit. Civil case law already exists on similar matters and are explored in our FAQ above.

We would therefore urge councils to be very vigilant in ensuring that all sites chosen for a 50% increase in speed limit do not breach guidance and that full due diligence has been taken in exploring the consequence and risk associated with such an increase. Setting a 30mph limit may well appear to be “reverting to what it was before” but in reality it is an exceptional limit and requires exceptional and evidential justification.

In conclusion.

Like the minister, we welcome 30mph limits where the roads have been made evidentially safe for any vulnerable road users. That is sensible. Wales has taken a huge step forward in safety on public roads, in the comfort and attractiveness of actual travel, and in reducing risk and insurance premiums in setting its national 20mph default. It would be a travesty for these gains to be diluted and lost in order to appease a small minority of drivers on roads where the saving in journey time from a life endangering 30mph limit would be measured in seconds.

Thank you for your time and interest. On the issue of road safety, the whole world is watching Wales and your influence and decisions on this matter over the months to come could save or deny so many lives not only in Wales but around the world. May your communities remain as safe as possible. If I can help in any way, then please contact me.

My best regards 

 

Rod King MBE


 

Annwyl gynghorydd

“Mae’r gostyngiad syfrdanol yn nifer yr anafusion ar Ffyrdd Cymru yn dilyn y terfyn cyflymder 20mya diofyn mewn perygl o gael ei wrthdroi os bydd terfynau cyflymder yn cael eu cynyddu gan 50%”

  • Mae nifer yr anafusion wedi gostwng gan 28% ar ffyrdd 20/30mya yng Nghymru
  • Mae cwmnïau yswiriant yn adrodd am ostyngiad mewn premiymau yng Nghymru
  • Mae Cymru’n cael ei gweld fel arweinydd ym maes diogelwch ar y ffyrdd yn fyd-eang
  • Mae llawer o gynghorau lleol yn defnyddio dull synhwyrol a gofalus o adolygu terfynau cyflymder
  • Gall rhai fod mewn perygl cyfreithiol a gwleidyddol o gynnydd ar raddfa eang mewn terfynau cyflymder

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r holl awdurdodau lleol am y gwaith y maent wedi’i wneud i roi ar waith y terfyn 20mya diofyn ar gyfer Cymru. Gyda’r ffigurau anafusion ar gyfer mis Gorffennaf i fis Medi 2024 nawr ar gael, rydym wedi gallu cymharu’r anafusion ar ffyrdd trefol/pentref yng Nghymru ers bron i 20 mlynedd. Roedd y newidiadau o flwyddyn i flwyddyn ar gyfer unrhyw 12 mis a ddaeth i ben ym mis Medi fel a ganlyn:-

Newid mewn anafusion ar ffyrdd Cymru: blwyddyn yn diweddu 30/9 

Casualty_change_by_Year_Oct_to_Sep.png

Rydym wedi dangos yr amrywiad mewn anafusion o un flwyddyn i’r llall ar y chwith ar gyfer y ffyrdd hynny sydd â therfyn cyflymder 20mya/30mya a’r rhai â therfyn 40mya. Yr hyn sy’n amlwg yw (ar wahân i flwyddyn cyfnod clo Covid) bod y gostyngiad o 28% ar gyfer ffyrdd 20/30mya yn y 12 mis ar ôl gweithredu’r terfyn cyflymder 20mya yn fwy na dwbl y gostyngiad blynyddol mwyaf blaenorol. Ac o ddileu 2019/20 mae’n chwe gwaith yn fwy na’r gostyngiad cyfartalog flwyddyn ar ôl blwyddyn o 2005 i 2022.

Gyda 678 yn llai o anafusion ar ffyrdd 20mya a 30mya yn y 12 mis hyn, mae hynny’n golygu 678 yn llai o bobl naill ai wedi’u lladd neu eu hanafu ar ffyrdd Cymru. Caiff Cymru ei gweld fel esiampl mewn diogelwch ar y ffyrdd yn fyd-eang. Mae’r gostyngiad hwn mewn perygl yng nghymunedau Cymru hefyd wedi arwain at ostyngiadau mewn premiwm yswiriant wrth i gwmnïau adrodd am ostyngiad o 20% mewn hawliadau difrod a gostyngiad canlyniadol o £50 yn y premiwm ar gyfer y gyrrwr cyffredin. Am hyn mae’n rhaid i mi longyfarch gyrwyr Cymru sydd, trwy eu newidiadau mewn arferion gyrru, yn gwneud cymaint o wahaniaeth.

Ar yr un pryd, rwy’n ymwybodol bod disgwyl bob amser gweld ychydig o wahaniaethau o ran eithriadau i’r 20mya diofyn. Gwyddom fod llawer, yn wir y rhan fwyaf, o awdurdodau lleol yn adolygu eu terfynau cyflymder ar bob darn o ffordd yn ddiwyd i weld a yw cynnydd o 50% yn ddiogel ac yn un y gellir ei gyfiawnhau. Maent mewn llai o risg o atebolrwydd am anafiadau sy’n dilyn na phe byddent wedi ymateb yn syml i alwadau gan leiafrif o yrwyr i godi terfynau cyflymder ar raddfa eang.

Dim ond 10,500 (neu 0.45% o ddeiliaid trwydded yrru yng Nghymru) a ymatebodd drwy enwi ffyrdd yr oeddent am eu gosod i 30mya. Yr wyf yn siŵr y byddwch yn ymwybodol NAD yw’r canllawiau newydd ar osod eithriadau i 20mya yn golygu y dylai’r rhain gael eu heithrio neu hyd yn oed eu hystyried yn awtomatig fel eithriad. Mae arweiniad clir iawn yn yr egwyddor o osod eithriadau dim ond lle mae cyflymderau uwch yn amlwg yn ddiogel ym mhresenoldeb cerddwyr a beicwyr, a bod nifer o feini prawf lleoedd y mae’n rhaid eu bodloni cyn ystyried. Mae’r canllawiau hyn yn sicrhau, fel y dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates AS, yn ddiweddar “...rydym wedi grymuso awdurdodau lleol i wneud newidiadau lle mae’n ddiogel i wneud hynny.” 

Fy mhryder yw y gallai rhai awdurdodau fod yn ystyried gosod terfynau 30mya mewn mannau sydd ddim yn bodloni naill ai egwyddorion neu fanylion y canllawiau a’u bod wedi camddarllen yr arwyddion gan Lywodraeth Cymru sy’n awgrymu cefnogaeth. Awdurdodau lleol sy’n cymryd cyfrifoldeb, ac a fydd yn cael eu dal yn atebol, am eithriadau ac nid llywodraeth ganolog. Ac wrth wneud hynny mae angen iddynt ystyried y canllawiau yn llawn yn ogystal â chyfrifoldebau cyfreithiol eraill y tu hwnt i reoli traffig. Rydym felly wedi llunio canllaw sy’n ddefnyddiol i gynghorwyr ddeall dilysrwydd unrhyw orchmynion traffig arfaethedig, a hefyd yn ddefnyddiol i’r cyhoedd wrth fynegi eu pryderon yn ystod y broses ymgynghori ar y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig. Mae hwn ar gael fel un o’n Cwestiynau Cyffredin ar ein gwefan yn www.20splenty.org/w_faq11. Mae hwn yn rhoi cefndir, manylion ac enghreifftiau o rai o’r gwrthwynebiadau yr ydym wedi’u gwneud i Orchmynion Rheoleiddio Traffig drafft 30mya cynnar yn Sir y Fflint a Wrecsam. 

Mae’r ffaith bod gan Gymru bellach derfyn 20mya diofyn cenedlaethol, gydag eithriadau dim ond lle gwneir hynny gan awdurdodau lleol, yn golygu y bydd yr holl ffyrdd 30mya (ac eithrio ar gefnffyrdd) wedi’u pennu gan Awdurdod Lleol ac nid llywodraeth ganolog. Lle bydd damweiniau ac anafusion yn digwydd yn y dyfodol ar ffyrdd 30mya yna mae’n ddigon posibl y bydd yna gwmnïau yswiriant sy’n cynrychioli gyrwyr mewn rhai sefyllfaoedd lle bydd anafusion yn dymuno mynd ar drywydd atebolrwydd gydag Awdurdod Lleol a oedd wedi gosod terfyn 30mya. Mae cyfraith achosion sifil eisoes yn bodoli ar faterion tebyg a chânt eu harchwilio yn ein Cwestiynau Cyffredin y cyfeirir atynt uchod.

Byddem felly’n annog cynghorau i fod yn wyliadwrus iawn mewn sicrhau nad yw pob safle a ddewisir ar gyfer cynnydd o 50% yn y terfyn cyflymder yn torri’r canllawiau a bod diwydrwydd dyladwy llawn wedi’i gymryd wrth archwilio’r canlyniad a’r risg sy’n gysylltiedig â chynnydd o’r fath. Mae’n bosibl iawn y bydd gosod terfyn 30mya yn ymddangos fel pe bai’n “dychwelyd i’r hyn hen drefn” ond mewn gwirionedd mae’n gyfyngiad eithriadol ac mae angen cyfiawnhad eithriadol a thystiolaethol.

I gloi

Fel y gweinidog, rydym yn croesawu terfynau 30mya lle mae’r ffyrdd wedi’u gwneud yn amlwg yn ddiogel i unrhyw ddefnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed. Mae hynny’n synhwyrol. Mae Cymru wedi cymryd cam enfawr ymlaen o ran diogelwch ar ffyrdd cyhoeddus, o ran pleser ac atyniad teithio llesol, ac o ran lleihau risg a phremiymau yswiriant wrth osod ei therfyn 20mya diofyn cenedlaethol. Byddai’n drychineb i’r enillion hyn gael eu gwanhau a’u colli er mwyn tawelu lleiafrif bach o yrwyr ar ffyrdd lle byddai’r arbediad mewn amser teithio o derfyn 30mya sy’n peryglu bywyd yn cael ei fesur mewn eiliadau. 

Diolch i chi am eich amser a’ch diddordeb. Ar fater diogelwch ar y ffyrdd, mae’r byd i gyd yn gwylio Cymru a gallai eich dylanwad a’ch penderfyniadau ar y mater hwn dros y misoedd i ddod achub neu beryglu cymaint o fywydau nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd. Boed i’ch cymunedau aros mor ddiogel â phosibl. Os gallaf helpu mewn unrhyw ffordd, yna cysylltwch â mi.

 

Cofion gorau 

Rod King MBE

 

Showing 1 reaction

Please check your e-mail for a link to activate your account.
  • Rod King
    published this page in FAQs 2025-02-08 07:03:40 +0000